Mae miloedd o draethodau ymchwil ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir ynddynt gyfoeth o wybodaeth am bynciau megis llenyddiaeth, hanes, daearyddiaeth, peirianneg, a meddygaeth. Yn wir, gallant fod o ddiddordeb i nifer helaeth ac amrywiol o ymchwilwyr.

Traethodau ymchwil Prifysgol Cymru
Y casgliad helaethaf o ddigon yw traethodau ymchwil colegau Prifysgol Cymru, copïau a roddwyd yma ar adnau gan Gofrestrfa'r Brifysgol. Ysgrifennwyd y cynharaf ohonynt yn 1900. Rhestrir hwy mewn cyfrolau teipysgrif yn Ystafell Gatalog Llawysgrifau a Chofysgrifau. Traethodau a dderbyniwyd gan y Llyfrgell ar ôl 1985 yn unig a gofnodir ar hyn o bryd ar CAIRS:web. Er helaethed y casgliad sydd wedi dod i law, dylid nodi nad yw'r Llyfrgell wedi derbyn POB UN o draethodau'r Brifysgol.

Traethodau amrywiol Prifysgol Cymru
Dylid cofio bod ar gael hefyd gasgliad o dros gant a hanner o draethodau amrywiol (Misc. Theses), 1986-1996, y Brifysgol. Traethodau yw'r rhain nas cynhwyswyd yn Rhestr Dderbyn y Brifysgol. Cofnodir y cwbl ohonynt ar CAIRS:web.

Traethodau ymchwil Prifysgol Morgannwg
Cedwir yma nifer fechan o draethodau ymchwil Prifysgol Morgannwg rhwng 1995 a 1998, a chofnodir y rhai a dderbyniwyd er 1999 yng nghronfa ddata CAIRS.

Traethodau ymchwil prifysgolion eraill
Mae yma hefyd nifer o draethodau gradd uwch prifysgolion y tu hwnt i Gymru sydd â'u cynnwys o ddiddordeb Cymreig. Lleolir y cyfrolau hyn mewn cyfresi llawysgrif amrywiol, megis Llawysgrifau LlGC, LlGC ex, a Ffacsimilïau LlGC. Rhestrir hwy ar gardiau yn Ystafell Gatalog Llawysgrifau a Chofysgrifau, a chofnodir y cwbl ohonynt ar CAIRS:web..

Traethodau ymchwil yn rhan o archif
Yn olaf, mae ambell draethawd i'w gael ymhlith yr archifau a gedwir yn yr Adran, a gellir eu chwilio yn y 'Siedylau' ar ISYS:web ac yn y cronfeydd data ar ISYS.

Catalog yw hwn o'r traethodau sydd ar gadw yn y Llyfrgell hon. Ni atgynhyrchir y traethodau gwreiddiol ar y We. Rhaid dod i'r Llyfrgell i'w darllen. Yn y catalog ar hyn o bryd y mae oddeutu 25,000 o gofnodion.

Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LlGC/NLW 2000-2001