Tudalen Flaen Adnoddau Electronig CAIRS:web Cymorth y Safle English

Archifau

Mae cronfa CAIRS:web ar gyfer archifau yn y broses o gael ei datblygu. Ar hyn o bryd ceir mynediad i ddisgrifiadau lefel casgliad yn unig o'r nifer bychan o archifau a gatalogwyd er 1999.

Mae nifer o restrau cymorth archifau a luniwyd cyn 1999 yn y broses o gael eu trosi i ffurf ddigidol. Gallwch chwilio ar ISYS Web (dewisiwch llawysgrifau: siedylau o'r arlwy) ac mae rhestr ar gael o'r catalogau sydd wedi'u trosi eisoes.

Gweithiau celf mewn ffrâm

Mae cronfa Gweithiau celf mewn ffrâm yn cynnwys daliadau helaeth y Llyfrgell o weithiau celf, o ddiddordeb Cymreig yn bennaf, gydag enghreifftiau da o ddarluniau tirlun, portread a genre. Gwelir dros 4000 o ddelweddau wedi'u digideiddio ar y tudalennau hyn.

Traethodau ymchwil

Mae'r gronfa traethodau yn cynnwys cofnodion ar gyfer dros 15,000 o draethodau ymchwil a gyflwynwyd am raddau uwch ym Mhrifysgol Cymru a cholegau cysylltiedig er 1984, a Phrifysgol Morgannwg er 1999.