Er 1999 lluniwyd y rhestri cymorth i archifau (y catalogau) ar system CAIRS. Nifer fechan iawn sydd ar CAIRS ar hyn o bryd, er y bydd y nifer yn cynyddu'n sylweddol yn y dyfodol. Fe fyddant yn cynnwys archifau corfforaethol, megis sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol; archifau stadau yn ogystal ag archifau teuluoedd ac unigolion.

Ar hyn o bryd dim ond disgrifiadau ar lefel casgliad sydd ar gael, h.y. disgrifiad o archif yn ei chyfanrwydd. Fe fydd hi'n bosib gweld disgrifiadau manylach o'r archifau o hydref 2002.

Mae'r mwyafrif llethol o'r rhestri cymorth a luniwyd cyn mabwysiadu system CAIRS ar gael i'w chwilio ar ISYS:web. Ychwanegir yn gyson at y gronfa ddata hon ac mae rhestr gyfredol ar gael o'r rhestri cymorth sydd wedi eu trosi i ISYS. Sylwer, fodd bynnag, mai rhestri cymorth a luniwyd cyn 1999 (gydag eithriadau prin) a ychwanegir at ISYS:web.

Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LlGC/NLW 2002.